Homo
''Homo'' yw'r rhywogaeth (genws) sy'n cynnwys dynolryw a'u perthnasau agosaf. Tybir fod y genws yn bodoli ers tua 1.5 i 2.5 miliwn o flynyddoedd. Mae pob rhywogaeth ac eithrio ''Homo sapiens'' wedi darfod o'r tir. Darfod fu hanes ''Homo neanderthalensis'', y rhywogaeth olaf ac eithrio dyn, tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl (ond yn ddiweddar ceir tystiolaeth sy'n awgrymu i ''Homo floresiensis'' fyw hyd at mor ddiweddar â 10,000 CC).Mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn meddwl fod y gwahaniaeth rhwng dyn a'r gorila a tsimpansî yn rhy fawr iddyn nhw fod yn rhan o'r un genws, er eu bod fel arall yn agos iawn i ni. Y genws agosaf i ''Homo'' yw ''Kenyanthropus platyops'', sydd efallai'n genws hynafiad. Yn nesaf, trwy'r genws hwnnw, mae ''homo'' yn perthyn i'r ''genera'' ''Paranthropus'' ac ''Australopithecus'', a adawsant stema'r egin-''Homo'' tua 5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20